Cylchgrawn chwarterol sy’n ymwneud â gwahanol agweddau’r diwylliant Cymraeg yw’r Traethodydd. Ers ei sefydlu gan Lewis Edwards yn 1845, mae wedi cynnig llwyfan i lenorion, beirniaid a sylwebyddion, ac erys yn fforwm hollbwysig ar gyfer trafodaeth ddiwylliannol yn y Gymru gyfoes. Ymhlith ei hawduron cyson y mae T. Robin Chapman, Dafydd Glyn Jones, Dafydd Ifans, M. Wynn Thomas a Gruffydd Aled Williams.
Y Golygydd: D. Densil Morgan
Bellach yn Athro Emeritws mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant, bu am ddwy flynedd ar hugain ar staff Prifysgol Bangor. Cyhoeddodd yn helaeth ar bynciau crefyddol a diwinyddol yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Y Bwrdd Golygyddol:
Mererid Hopwood
Prifardd a phrif lenor; erbyn hyn mae’n Athro yng Nghyfadran Addysg a Chymunedau Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin.
T. Hefin Jones
Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd a Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n ymchwilio ym maes Ecoleg, ac yn sylwebydd amlwg ar faterion gwyddonol yn Gymraeg.
Cynfael Lake
Cyn-ddarllenydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe; mae’n arbenigwr ar farddoniaeth yr Oesoedd Canol ac ar lên a diwylliant y ddeunawfed ganrif.
Eryn M. White
Darllenydd yn Ysgol Hanes, Prifysgol Aberystwyth; mae’n arbenigo ar hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar ac wedi cyhoeddi’n helaeth ar grefydd, addysg a diwylliant yn ystod y cyfnod, yn Saesneg ac yn Gymraeg.