Amdanom Ni

Prif amcan Y Traethodydd yw cynnig ymdriniaethau ar rychwant o bynciau sy’n ymwneud â ‘diwylliant’, a deall y gair hwnnw mewn ystyr eang i gynnwys gwead syniadol a deallusol cymdeithas. Mae’r cylchgrawn bob amser wedi llwyddo i fod yn amserol ac yn gyfoes yn ei drafodaethau ar lenyddiaeth, crefydd a’r celfyddydau.

Cyfraniad pwysig at drafod pynciau amrywiol mewn ffordd ddeallus yw adolygiadau sylweddol a safonol, ac mae’r Traethodydd wedi rhoi lle amlwg i adolygu llyfrau yn gyson, a hyn oll mewn arddull sy’n apelio at y ‘darllenydd cyffredin’. Ers dros gan mlynedd y mae’r cylchgrawn wedi bod yn cyfrannu’n gyffredinol eang at y bywyd deallusol Cymraeg.

Un o nodweddion Y Traethodydd yw ei gynnwys amrywiol. Yn ogystal â nifer o adolygiadau, mae pob rhifyn yn cynnwys tair neu bedair o erthyglau ar amrywiaeth o bynciau. Mewn rhifynnau diweddar cafodd rhai o glasuron llên Cymru eu hailystyried o’r newydd a daeth ein hanes hefyd dan y chwyddwydr. Mae materion gwyddonol yn cael eu hystyried, yn arbennig berthynas crefydd a gwyddoniaeth, a hefyd faterion moesegol a diwinyddol cyfoes. Mae cyfle am ‘ddeialog’ ar dudalennau’r cylchgrawn a chroesewir ymateb i erthyglau.

Cyhoeddir Y Traethodydd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.

O mis Gorffennaf 2019 ymlaen Gwasg Gomer, Llandysul, fydd yn argraffu ac yn dosbarthu’r Traethodydd, a gellir ei archebu ar lein trwy y gwefan hon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech drafod Y Traethodydd, mae croeso i chi gysylltu â:

This image has an empty alt attribute; its file name is 300densil.pngThis image has an empty alt attribute; its file name is Alice1-300x300.jpg
Golygydd Y Traethodydd
Yr Athro D. Densil Morgan
Y Gilfach
Ffordd y Gogledd
Llanbedr Pont Steffan
SA48 7AJ
d.d.morgan@pcdds.ac.uk
Cynorthwydd Cyhoeddiadau EBC
Mrs Alice Williams
Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru
81 Heol Merthyr
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd, CF14 1DD
alice.williams@ebcpcw.cymru

Gallwch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf a chysylltu â ni drwy ddilyn Y Traethodydd ar gyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter @YTraethodydd.