Y Traethodydd: Ebrill 2025

Rhifyn Ebrill 2025 o’r Traethodydd

Dwy deyrnged ddwys a diffuant i un o’r mwyaf o’n haneswyr, y diweddar Athro Geraint H. Jenkins, sy’n cael y lle blaenllaw yn rhifyn diweddaraf Y Traethodydd. Mae’r naill gan yr Athro Ceri Davies, cyfaill plentyndod ac oes i Geraint, a’r llall gan un o’i fyfyrwyr sydd ers blynyddoedd yn un o’n haneswyr blaenaf, sef y Dr Eryn M. White. Mae’r ddwy yn disgrifio’i waith ac yn tafoli’i gyfraniad ac wrth ddadlennu peth o bersonoliaeth Geraint, maent yn ein hatgoffa o’r golled a gawsom yn ei ymadawiad. Y gyfres Cof Cenedl yw un o gymynroddion Geraint i’r cenedlaethau a ddaw ar ei ôl, a bydd ei gyfrolau ysblennydd yn para i’n goleuo am flynyddoedd eto. Heddwch i’w lwch.

Yn ogystal ȃ’r uchod, cawn ddarllen ail ran ysgrif gynhwysfawr yr Athro Gruffydd Aled Williams ar Walter Brut, y Cymro o’r Gororau a gyfunodd ei radicaliaeth grefyddol ȃ chefnogaeth frwd i Owain Glyndwr. Mae’r stori yn un ddiddorol a’r cyflwyno’n afaelgar a gwn y cewch flas ar y dweud. Wedyn mae John Emyr, yr awdur o Gaerdydd, yn trafod bywyd a gwaith y seicolegydd Cristnogol David Enoch, dyn sydd, er iddo fod ar y maes ers blynyddoedd, ȃ chanddo air perthnasol ar gyfer y genhedlaeth bresennol. Gyda hynny mae Rhidian Griffiths, un o’n harbenigwyr pennaf ar y traddodiad canu yng Nghymru, yn traethu ar yrfa awdur y gân adnabyddus ‘Unwaith eto Nghymru Annwyl’. Dyfed Lewys oedd y dyn, ac wrth forio canu anthem Cymru a’r Byd ym mhafiliwn y brifwyl, faint ohonom sy’n gwybod ei enw heb sȏn am wybod dim amdano. Darllenwch yr ysgrif ddifyr hon er mwyn cael eich goleuo.

Bu’r ymateb i ran gyntaf ‘Dyddlyfr Prifathro wrth ei Ewyllys’ yn rhifyn mis Ionawr yn hynod ffafriol, a ninnau’n awchu am gael gwybod mwy am brofiadau Derec Llwyd Morgan, rhai difyr a dwys, fel Prifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, o 1995 ymlaen. Ac yntau’n un o ffigyrau cyhoeddus amlycaf y genedl ddiwedd y ganrif o’r blaen a dechrau hon, mae’n rhannu mwy eto am yr hyn a ddigwyddodd yn Aber, gan ganoli’r tro hwn ar y blynyddoedd 1997-8. Cewch gymaint o flas ar yr hanesion hyn ac a gawsoch y tro diwethaf. Amheuthun yw medru dweud y bydd mwy eto i ddod yn rhifynnau nesaf Y Traethodydd.  Melys moes mwy.

Un adolygiad sydd yn y rhifyn presennol, un helaeth ar Astudiaethau Athronyddol 9, sy’n gyfrol cyfarch i E. Gwynn Matthews. Brodor o Ddyffryn Clwyd yw Gwynn Matthews, a dreuliodd oes yn dysgu athroniaeth yn gyntaf dan nawdd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ac yna yr Adran Allanol ym Mhrifysgol Bangor. Ac yntau bellach yn byw yng Nghaerdydd, aeth ei gydweithwyr ati i lunio’r gyfrol hon. Dafydd Huw Rees a Gareth Evans-Jones yw’r golygyddion, Huw Williams sy’n crynhoi natur cyfraniad allweddol Gwynn i ddysgu athroniaeth trwy’r Gymraeg tra mai’r Athro Howard L. Williams sy’n adolygu.

Anogwn ffyddloniaid Cenn@d unwaith eto nid yn unig i ddarllen Y Traethodydd ond i’w brynu a’i archebu. Gellir gwneud hynny trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch â Rhian Melhuish (rhian.melhuish@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.