Prif erthygl rhifyn diweddaraf Y Traethodydd yw’r ddarlith a draddododd y cyn-archesgob Rowan Williams ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, Tregaron, ar y testun ‘Cerdd a Chredo: ydi cerdd grefyddol yn bosibl heddiw?’ Bydd y sawl a oedd yn ei wrando yn cofio mai ymdriniaeth dreiddgar ac ystyriol a gafwyd, gan ddweud, yn y diwedd, ‘Ydi’, ond nid cyn codi enghreifftiau gan rai o’n beirdd cyfoes, Ceri Wyn Jones a Menna Elfyn ond yn fwyaf arbennig Aled Jones Williams sydd, fel y gŵyr llawer o’n darllenwyr, yn llais hynod, onid unigryw, yn y byd llengar Gymraeg. Ofer yw ceisio crynhoi’r ddarlith mewn llinell neu ddwy fel hyn; rheitiach fyddai i chi ddarllen yr ysgrif yn bwyllog drostoch eich hunain a phrofi o’i chyfoeth. Chewch chi ddim mo’ch siomi.
Yn ogystal â’r ysgrif uchod ceir ail ran ymdriniaeth Pryderi Llwyd Jones â gwaith Thomas Traherne, y bardd Saesneg o’r gororau; astudiaeth hynod ddiddorol Llion Wigley ar hanes y gardd-bentref Rhiwbeina, Caerdydd, yn nau-ddegau’r ganrif o’r blaen, a’r ymgais iwtopaidd ei naws i greu cymuned arbrofol a ddenodd rai o flaenwyr y dosbarth canol Cymraeg – Kate Roberts, Iorwerth Peate, R. T. Jenkins yn eu plith – i fyw yno, ac yna ysgrif sobreiddiol gan D. Ben Rees ar erchyllterau’r Holocost, a’r angen i ni beidio byth a’i anghofio.
Ymhlith ein hadolgwyr yw Huw Pryce ar gyfrol yr archeolegydd David Austin ar Ystrad-fflur (eto’n gysylltiedig ag Eisteddfod Genedlaethol Tregaron); gwerthfawrogiad Dafydd Ifans o olygiad Gruffydd Aled Williams o ysgrifau’r diweddar Ddr Enid Pierce Roberts, gynt o’r Adran Gymraeg ym Mangor; Rhidian Griffiths ar gyfrol Rhiannon Ifans, Stars and Ribbons: winter wassailing in Wales – bydd rhai yn cofio’r gyfrol Sêrs a Rybana, a gyhoeddwyd gan yr awdur mor bell yn ôl ag 1983, ond nid cyfiethiad moel mo hwn ond ffrwyth aeddfed ymchwilio a myfyrio pellach ar y maes; ac yna drafodaeth Arfon Jones, yntau’n arbenigwyr ar hanes ein hesboniadaeth feiblaidd, ar astudiaeth ddisglair Gareth Jones-Evans, ‘Mae’r Beibl o’n tu’: Ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868).