
Er mor boblogaidd yw rhaglenni ar fwyd ar y teledu ac er gwaethaf y swmp o gyfrolau ar fwyd yn y siopau, cymharol brin yw’r llyfrau Cymraeg ar y pwnc a mwy prin fyth yw’r rhai sy’n sôn am hanes bwyd yng Nghymru. Ac yntau eisoes wedi cyhoeddi ei gyfrol ddifyr Afalau Cymru (2018) ac yn fwy diweddar Welsh Food Stories (2022), aeth yr awdur o Gaerfyrddin, Carwyn Graves, ati yn yr ysgrif ‘Y Cymry a’u bwyd: thema yn ein llên’ i restru rhai o’r amryfal gyfeiriadau at fwyd yn ein barddoniaeth, o’r Hengerdd at Mererid Hopwood, gan ddadansoddi ymateb y Cymry i fwydydd. Mae’n ysgrif ddifyr, ddiddorol a – maddeuer y gair – flasus, ac mae’n ymddangos yn rhifyn diweddaraf Y Traethodydd. Caiff ei dilyn gan ddwy ymdriniaeth swmpus a golau gan ddau o’n hysgolheigion pennaf: Huw Pryce, Athro Hanes Cymru Prifysgol Bangor, yn trafod hanesyddiaeth Gymreig, ac M. Wynn Thomas, Athro Saesneg Prifysgol Abertawe, yn cymharu’r beirdd R. S. Thomas a’r canoloeswr Siôn Cent. Mae’r ddwy ysgrif fel ei gilydd yn trafod y cysyniad o genedligrwydd, y naill yn dadansoddi fel y bu haneswyr yn y cyfnod modern cynnar yn trafod lle’r genedl Gymreig yng nghyd-destun Prydeindod, a’r llall yn ein goleuo ni ymhellach ar gymhlethdod agwedd R. S. Thomas at Gymru a dylanwad bardd pregethwrol mwyaf trawiadol yr oesoedd canol arno. Bydd darllenwyr Y Traethodydd wrth eu bodd gyda’r cyfraniadau hyn.
Tanysgrifiwch Nawr