Rhifyn Gorffennaf 2022

Bellach mae rhifyn Gorffennaf Y Traethodydd, cylchgrawn llenyddol hynaf Cymru, ar gael yn y siopau, trwy archeb neu’n uniongyrchol trwy’r wefan. Mae’r rhifyn yr un mor amrywiol ag erioed, ac yn un y bydd ein darllenwyr, hen a newydd, yn cael blas arno. Ar wahân i waith ein beirdd, Dafydd M. Job (yntau’n gyfrannwr newydd) a John Emyr, bu’r rhyddieithwyr yn ddiwyd yn ôl eu harfer. Ac yntau wedi traethu mewn rhifynnau o’r blaen ar y beirdd metaffisegol Seisnig, George Herbert a Henry Vaughan, mae Pryderi Llwyd Jones yn rhannu â ni ei fyfyrdod ar un arall ohonynt, sef Thomas Treherne. Yn wahanol i Herbert a Vaughan, prin oedd cyswllt Treherne â Chymru fel y cyfryw, ond fel hwythau, mae yn ei waith bethau arhosol eu gwerth ynghyd â neges sy’n berthnasol i’r unfed ganrif ar hugain. Bydd ail ran astudiaeth Pryderi yn ymddangos yn rhifyn Hydref.

Tanysgrifiwch Nawr

Cyfraniad yr almanacwr Gwilym Howel o Lanidloes yn y ddeunawfed ganrif, sy’n dod dan sylw yr ysgolhaig Cynfael Lake, un o’n harbenigwyr pennaf ar lên boblogaidd y cyfnod, tra bod y golygydd yn adrodd hanes yr Annibynnwr Stephen Hughes, ‘Apostol Sir Gaerfyrddin’, adeg trichanmlwyddiant ei farw. Mae Gethin Matthews, yr hanesydd o Brifysgol Caerdydd, eisoes wedi cyfrannu’n helaeth at ein dealltwriaeth o ymateb y Cymry i alanas y Rhyfel Mawr, ac yn yr ysgrif ‘Creithiau Gaza: dinistr y gorffennol â’r olion a adawyd yng Nghymru’, mae’n ein goleuo ymhellach ynghylch yr ôl a adawodd y brwydro yn y dwyrain pell ar fywydau’r sawl a fu’n ymladd yno a’r hiraeth wedi’r colledion enbyd a fu yno. Dyma ysgrif sobreiddiol a dwys. Ynghyd â hynny, mae Dafydd Johnston yn adolygu Hen Ddalennau, casgliad gwerthfawr o ysgrifau llenyddol un o’r craffaf o’n beirniaid, sef Dafydd Glyn Jones.

Dyma ni’n eich pwyso unwaith eto i ddarllen y rhifyn cyfoethog hwn o’r Traethodydd, ac yn well fyth, danysgrifio i’r hynaf a’r mwyaf sylweddol o gylchgronau’r diwylliant Cymraeg. Wedi’i argraffu gan Wasg Gomer, Llandysul, gellir ei archebu ar lein trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook.