Rhifyn Ebrill 2022

Ar wahân i ryddiaith greadigol, un thema sy’n amlwg yn rhifyn cyfredol Y Traethodydd, cylchgrawn hynaf Cymru, yw gwlatgarwch a chenedlaetholdeb. Anrhydedd yw cael cyhoeddi darlith gan y diweddar Meredydd Evans ar un o ffigyrau cyhoedus pwysig y ganrif o’r blaen, sef yr Athro J. R. Jones. J. R. Jones yn anad neb a roes sylfaen ddeallusol i ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith ym merw’r 1960au, ac yn yr ysgrif hon aeth un o ffigyrau blaenaf mudiad yr iaith ar ddiwedd y ganrif, sef ei gyd-athronydd, y Dr Meredydd Evans, i dafoli  syniadaeth J. R. ynghylch ystyr cenedlaetholdeb. Trwy law yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, y cafwyd y ddarlith, a draddodwyd yn wreiddiol i fyfyrwyr gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth yng nghanol y 1990au, a Richard hefyd sy’n ei chyd-destunoli ac yn esbonio ei gwerth. Gwych o beth yw clywed llais Merêd unwaith eto, yn trafod gyda’i ddisgleirdeb arferol bwnc a oedd yn agos iawn at ei galon.

Tanysgrifiwch Nawr

Athronydd arall o Gymro yw’r Athro John Heywood Thomas ac yn ei ysgrif yntau  – a gyrhaeddodd yn gwbl annibynnol ar ysgrif Merêd – mae yntau yn trafod ystyr gwlatgarwch, a hynny ar sail ei hir brofiad o fod yn alltud o’i wlad. Gan dynnu oddi ar waith Raymond Williams a meddylwyr eraill, mae’n myfyrio ar arwyddocâd hanes, gwreiddiau, a’r cysyniad o iaith y galon. Gwych o beth yw cael cyhoeddi’r astudiaeth ddiddorol hon. Yr un awdur sy’n adolygu cyfrol fer Cynog Dafis, Pantycelyn a’n Picil ni Heddiw. Er yn werthfawrogol o ymgais Cynog i gymhwyso gweledigaeth y Pêr Ganiedydd at y Gymru gyfoes, nid yw’n argyhoeddiedig fod y syniadaeth ddiwinyddol sy’n sail i’r gwaith yn gwneud cyfiawnder â sylwedd y Ffydd.

Bu gwlatgarwch yw un o themâu cyson tystiolaeth Y Cylch Catholig, sef y gymdeithas o Gymry a fynnent gymeradwyo’r Eglwys Gatholig Rufeinig i’w cyd-Gymry tra ar yr un pryd yn gwarchod hawliau’r Gymraeg ymhlith eu cyd-grefyddwyr. Wrth adolygu cyfrol y diweddar Ioan Roberts, Gwinllan a Roddwyd: Hanes Y Cylch Catholig, mae’r Golygydd yn sôn am arwyddocâd y gwaith ac am bwysigrwydd Y Cylch ei hun.

Yn ogystal â’r uchod, ceir stori fer gan awdur newydd, John Harding. Braint bob amser yw cyhoeddi rhyddiaith greadigol a phleser arbennig yw dod o hyd i dalent newydd. Ynghyd â hyn ceir ysgrif gan Dewi Alter, yr ysgolhaig ifanc o Brifysgol Caerdydd, ar y Ficer Prichard a Phla Llundain, 1625. Mae’n rhyfedd fel mae argyfwng y Covid wedi’n hatgoffa o argyfyngau tebyg mewn oesoedd o’r blaen.

Dyma ni’n eich pwyso unwaith eto i ddarllen y rhifyn cyfoethog hwn o’r Traethodydd, ac yn well fyth, danysgrifio i’r hynaf a’r mwyaf sylweddol o gylchgronau’r diwylliant Cymraeg. Wedi’i argraffu gan Wasg Gomer, Llandysul, gellir ei archebu ar lein trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru.