Arhosir ym myd llên y cyfnod modern cynnar gydag ysgrif Gerald Morgan ar Ellis Wynne o’r Las-ynys. Os yw’n adnabyddus fel awdur y clasur Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, mai’n llai hysbys am ei fersiwn o’r Llyfr Gweddi Gyffredin, a dyna thema’r ysgrif ddifyr hon.
O droi at lenor amlwg arall, ond o’r ddeunawfed ganrif y tro hwn, gwyddom am Williams Pantycelyn fel y mwyaf o’n hemynwyr, ond yn yr ysgrif ‘Pantycelyn a Rhyfel Annibyniaeth America’, mae A. Cynfael Lake yn cynnig mai ef, y Pêrganiedydd, oedd awdur cerdd dra theyrngarol yn erbyn y gwrthryfelwyr a fynnent weld America yn wlad rydd. Mae’r ymdriniaeth yn cyfuno beirniadaeth lenyddol a gwaith ditectif hanesyddol, gan gynnig gwedd newydd ar waddol y llenor o Bantycelyn.
Mewn ysgrif hynod afaelgar, mae Goronwy Wynne, y naturiaethwr o Sir Fflint, yn olrhain rhawd y gwyddonydd Alfred Russel Wallace, cyfoeswr Charles Darwin ac un o sylfaenwyr theori esblygiad, gan oleuo’i gysylltiadau Cymreig a Chymraeg. Syndod oedd darllen pa mor gefnogol ydoedd i’n hiaith a’n diwylliant, a pha mor gyfarwydd ydoedd â’n gwlad. Un a fu’n byw ei fywyd ar ffin gwahanol ddisgyblaethau ydoedd, ac yng ngoleuni hynny, diddorol yw darllen ysgrif Enid Morgan yn sôn am eraill sydd wedi byw eu bywydau ar y ffin rhwng rhychwant o argyhoeddiadau gwahanol.
Yn ogystal â’r uchod ceir amrywiaeth eang o adolygiadau. Mae A. Cynfael Lake yn rhoi sylw manwl i gyfrol swmpus Gerwyn Wiliams, Cynan: Drama Bywyd Albert Evans Jones; Goronwy Wyn Owen yn trafod gwaith y diweddar brifardd Gwynfor ab Ifor; Hywel J. Davies yn trin astudiaeth Darryl Leeworthy ar un o ffigurau llenyddol pwysig cymoedd Morgannwg, sef Elaine Morgan; Dewi Alter yn tafoli cyfrol Huw Williams, Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig, a Dafydd Ifans yn cymeradwyo cyfrol Richard Huws, Pobl y Topie, sef ardal y Bont-goch yng ngogledd Ceredigion. Rhwng popeth felly, dyma wledd ar ein cyfer.