Llyfrau a chariad at lyfrau yw nodwedd ysgrif Gerald Morgan, yn taflu goleuni ar ddarllenwyr llyfrau Cymraeg y canrifoedd o’r blaen trwy gyfrwng eu hewyllysiau. Trysor i gadw ac i drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf oedd llyfrau yn y dyddiau gynt, a difyr yw darllen pwy oedd y bobl hyn a beth yn union oedd deunydd eu darllen. Awdur newydd yw Sioned Spencer, a thema yng ngwaith Thomas Jones o Ddinbych sydd ganddi hi. Fel William Williams Pantycelyn, roedd gan y Methodist enwog o Ddinbych ddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth, ac mae Sioned yn olrhain y diddordeb hwnnw yn ei gerddi. Dyma ymdriniaeth eithriadol werthfawr, ac annisgwyl braidd, a fydd wrth fodd haneswyr, carwyr llên a’r rhai sydd â diddordeb mewn emynyddiaeth Cymru yn ogystal.
Ceir dwy ysgrif wedyn sy’n canoli ar yr ugeinfed ganrif. Yn y gyntaf ohonynt, gan y diweddar Brifathro D. Hugh Matthews – ei ysgrif olaf un a gyrhaeddodd law y golygydd ychydig cyn ei farw ym Mis Tachwedd – mae’n dwyn ar gof fwrlwm a delfrydiaeth y Mudiad Eciwmenaidd yn nechrau’r 1960au, ac yntau’n mynychu cynhadledd i Gristnogion ifainc yn Château Bossey ar Lyn Genefa yng nghwmni dau o’i gyd-Gymry, ac yn cyfarfod yno ag un a ddaeth yn gyfaill mawr i’r Cymry maes o law, sef y diwinydd Anglicanaidd A. M. Allchin. ‘I was converted to the existence of Wales in the early summer of 1961 or 1962’, meddai Allchin mewn un man, a chwestiwn Hugh oedd: ‘Tybed a oedd gan ein sgwrs ni’n dau unrhyw beth i’w wneud â’i droëdigaeth?’ Gwyddom fod i’r droëdigaeth honno bwysigrwydd mawr, nid yn unig i Allchin ond i eraill hefyd, a difyr yw darllen yr hanes. Os hoffwch wybod mwy amdani, bydd gofyn i chi droi at yr ysgrif hyfryd gofiannol hwn.
Nodwedd gofiannol sydd yn yr ysgrif nesaf, sef asesiad o gyfraniad cyfaill annwyl arall, sef y diweddar Euros Wyn Jones. Ergyd i lawer oedd colli Euros, yn gynamserol, yn 2018, a da yw gwybod y bydd cyfrol goffa iddo yn ymddangos cyn hir. Pennod o’r gyfrol honno yw ‘Euros Wyn Jones (1950-2018) fel awdur a diwinydd’, gan olygydd Y Traethodydd, sy’n tafoli ei gynnyrch awdurol, yn ysgrifau a chyfrolau, ac yn dadansoddi ei safbwynt diwinyddol. Fel eraill ohonom, dylanwadwyd Euros gan adfywiad Calfinaidd yn 1970au, ac arhosodd yn ffyddlon i’r gynhysgaeth honno ar hyd ei yrfa. Gwnaeth gyfraniad arhosol i’n diwylliant crefyddol, ac anrhydedd yw cael nodi ei waith fel hyn.
I gloi ceir dau adolygiad, yn naill gan Huw Edwards (sy’n hysbys i wylwyr y BBC ar hyd gwledydd Prydain fel cyflwynydd ‘News at Ten’), yn tafoli astudiaeth D. Ben Rees ar Gymry Lerpwl, a Hywel J. Davies, yr offeiriad o Aberdâr, yn disgrifio cynnwys y gyfrol a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caer-grawnt y llynedd, yn nodi canmlwyddiant sefydlu’r Eglwys yng Nghymru fel eglwys wedi’i datgysylltu oddi wrth Eglwys Loegr ac yn dalaith annibynnol, ar wahân. Dyma ddwy gyfrol bwysig, a’r ymdriniaeth o’r ddwy yn oleuedig wybodus ac yn bwysig ddiddorol.
Pwy a ŵyr faint bydd rhaid i ni aros cyn daw pethau yn ôl i ryw fath o normalrwydd yn dilyn pandemig enbyd Cofid 19. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr o ddarllen y rhifyn cyfoethog hwn o’r Traethodydd, ac yn well fyth, danysgrifio i’r hynaf a’r mwyaf sylweddol o gylchgronau’r diwylliant Cymraeg. Wedi’i argraffu gan Wasg Gomer, Llandysul, gellir ei archebu ar lein trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch ag Alice Williams (alice@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.