Rhifyn Hydref 2020

A ninnau’n wynebu gaeaf hir dan amodau Covid-19, gobeithio bydd rhifyn cyfredol Y Traethodydd yn eich diddori chi a’ch diddanu.

Cerddi trawiadol Derec Llwyd Morgan yw’r peth cyntaf yn y rhifyn hwn, cerddi serch yn dathlu bywyd priodasol hir a dedwydd, a chariad y bardd at ei wraig yr un mor gadarn nawr ag erioed. Mae rhywbeth hyfryd yn ‘Y Bard Cwsg 2020’ a ‘Jane yn Hen’, y ddwy yn clymu argyfwng y Covid ag awen Dafydd ap Gwilym, ac yn dathlu dedwyddwch priodasol yng nghanol amodau caethiwus y cyfnod clo. Os oes rhywbeth difyrrus o risqué ynddynt, gwn y bydd darllenwyr Y Traethodydd yn eu gwerthfawrogi’n fawr.

Tanysgrifiwch Nawr

Gan droi at yr ysgrifau rhyddiaith, dyma Ceri Davies yn dathlu camp Beibl Richard Parry ar achlysur pedwarcanmlwyddiant ei gyhoeddi, ac yn dadansoddi ei gynnwys yn olau, yn gynhwysfawr ac yn hynod afaelgar, tra bo Goronwy Wyn Owen, ein prif arbenigwyr ar fywyd a gwaith y Piwritan eirias o Gynfal, yn trafod ‘Morgan Llwyd y Bardd’. Fel rhyddieithiwr yr ydym yn meddwl am Morgan Llwyd fwyaf, awdur y campweithiau Gwaedd yng Nghymru, Llythyr i’r Cymry Cariadus a Llyfr y Tri Aderyn, ond cawn ddadansoddiad yma o’i awen yn ogystal. Yn dilyn hynny, ceir ail ran ysgrif Llion Wigley, ‘Rhyfeddu at y Cread: Llenyddieth Taith yn Gymraeg, c. 1931-1975’, sy’n parhau i’n tywys i’r gwledydd Sgandinafaidd, i’r Swistir ac i fannau eraill. Â llawer wedi gorfod hepgor eu gwyliau tramor eleni, mae’n braf cael teithio i fannau pellenig yng nghwmni amrywiaeth gyfoethog o lenorion ddoe.

‘Gweddi’r Terfyn’ yw un o gerddi mwyaf ysgytwol Saunders Lewis, a bydd rhai ohonom yn cofio’i darllen am y tro cyntaf ar dydalennau’r Traethodydd yn 1974, a chofio hefyd y drafodaeth ingol a ysbardunodd, gydag Aneirin Talfan Davies, Dewi Z. Phillips a Bobi Jones ymhlith eraill, yn ymateb iddi. Gyda deugain mlynedd a mwy wedi mynd heibio, yn ei ysgrif ‘Sylwadau ar “Gweddi’r Terfyn” Saunders Lewis’, mae’r athronydd a’r diwinydd John Heywood Thomas yn gosod y gerdd yn ei chyd-destun syniadol ac yn ein hatgoffa fod ei mawredd yn parhau. Ceir hefyd ysgrif gan y golygydd ar y berthynas rhwng ffydd a diwylliant, pwnc sydd wedi bod o ddiddordeb i ddarlenwyr y cylchgrawn erioed.

Hyfryd o beth hefyd yw cynnwys adolygiad Richard Owen o gyfrol Dafydd Glyn Jones, Wele Wlad: Ysgrifau ar bethau yng Nghymru, ac ymateb D. Hugh Matthews i gampwaith diweddar John Tudno Williams, Diwinyddiaeth Paul.

Diolchwn eto i staff ymroddgar Gwasg Gomer am sicrhau bod Y Traethodydd yn dal i gael ei gynhyrchu er gwaethaf pwysau rhyfedd y cyfnod Covid. Os hoffwch archebu copi, gallwch wneud hynny trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am wybodaeth ychwanegol gellwch gysylltu ag Alice Williams (alice@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.