Yn ogystal â’r llên greadigol, cawn ein tywys yn ôl i ddau gyfnod pwysig mewn hanes, sef y cyfnod modern cynnar ac yna’r ugeinfed ganrif, a hynny gan gyfranwyr sy’n arbenigwyr cydnabyddedig yn eu meuysydd. Yn yr erthygl sylweddol ond tra darllenadwy, ‘Achos rhyfedd William Parry, ysbïwr dwbwl (1571-85)’, sef y gyntaf mewn astudiaeth o ddwy, mae John Gwynfor Jones, yr hanesydd o Gaerdydd, yn dangos nad peth newydd o bell fordd mo’r celfyddyd tywyll o dwyll gwleidyddol. Wedyn, mewn ymdriniaeth olau iawn gan yr ysgolhaig ifanc o Aberystwyth James January-McCann, down i wybod mwy am gyfraniad Robert Gwyn, y reciwsant o Sir Gaernarfon, ac un o ladmeryddion mwyaf abl y Gwrthddiwygiad yng Nghymru’r ail ganrif ar bymtheg. Ac i droi at hanes mwy diweddar, a hithau’n dri-chwarter canrif wedi’r cyrch ar Arnhem, ‘a bridge too far’, yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, mae Gethin Matthews o Brifysgol Abertawe yn rhannu sgwrs â Gwynfor Hughes, peilot o Gymro a fu’n rhan o’r ymladd ac sy’n cyfleu yn fyw iawn yr erchylltra a brofodd yno. ‘Sobor o beth’ yw pennawd y sgwrs, sef cyfeiriad at oferedd y lladd a fu’n rhan o’r frwydr. Ym myd rhyfelgar yr unfed ganrif ar hugain, sobreiddiol yw darllen atgofion y swyddog meddylgar hwn o’r llu awyr.
Nodyn tebyg sy’n cael ei daro yn adolygiad Ieuan Elfryn Jones, yntau’n gyn swyddog milwrol, ar y gyfrol Dyhead am Hedwch: Dyddiaduron Milwr 1918 a 1919, yn seiliedig ar ddyddiaduron y caplan milwrol Stephen Owen Tudor, ac un o’r llu gyfrolau a gyhoeddwyrd eleni a’r llynedd i nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ac yntau’n swyddog yn Rhyfel y Gwlff yn nawdegau’r ganrif o’r blaen, ond ers blynyddoedd yn weinidog yr efengyl ar Ynys Môn, diddorol iawn yw darllen sylwadau’r adolygydd ar brofiadau gŵr ystyrgar a hydeiml mewn rhyfel cynharach. Dau sylwebydd iau sy’n cwblhau’r adolygu, sef Rhys Llwyd yn sôn am Adra: Byw yn y Gorllewin gan Simon Brookes, a Gareth Evans-Jones yn trafod astudiaeth ddisglair Llion Wigley ar ddylanwad syniadaeth Freud ar feddylwr Cymraeg yr ugeinfed ganrif yn y gyfrol Yr Anymwybod Cymreig: Freud, Dirfodaeth a’r Seice Cenedlaethol. Da gweld awduron o’r to iau yn cyfrannu mor gyfoethog at y drafodaeth ddeallusol yn y Gymru gyfoes.
Fel gyda rhifyn Ebrill, Gwasg Gomer, Llandysul, sy’n gyfrifol bellach am argraffu a dosbarthu’r Traethodydd, a gellir ei archebu ar lein trwy gyfrwng y wefan newydd www.ytraethodydd.cymru. £4 yw pris y rhifyn, neu archeb blwyddyn am £16. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am wybodaeth ychwanegol gellwch gysylltu ag Alice Williams (alice@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.