
Mae’r rhifyn hwn o’r Traethodydd yn cynnwys papurau a gyflwynwyd mewn cynhadledd a gynhaliwyd i ddathlu rhifyn ffeminyddol 1986, sef ‘Y Gymraes a’i Llên 1986–2016’ (30 Ionawr 2016). Nod y gynhadledd oedd asesu’n feirniadol ddylanwad rhifyn 1986 ynghyd â bwrw golwg ar sefyllfa Astudiaethau Menywod yn y Gymru gyfoes. Bu Elin ap Hywel (un o’r golygyddion gwreiddiol Y Traethodydd 1986) a Jane Aaron (un o olygyddion rhifyn ffeminyddol Tu Chwith 1996) yn bwrw golwg yn ôl, a chafwyd cyfraniadau gan Mair Rees, E. Wyn James, Katie Gramich a Rhiannon Marks yn amlygu amlochredd cyfoethog Astudiaethau Menywod cyfoes. Gwahoddwyd Caryl Lewis a Manon Steffan Ros i gloi’r gynhadledd â thrafodaeth ar lenydda yn yr unfed ganrif ar hugain a’r heriau ymarferol a chreadigol y maent yn eu hwynebu.
Tanysgrifio Nawr