Gwahanol iawn yw naws y ddwy erthygl sy’n dilyn. Yn ‘O Baradwys i Benyd’ mae Patricia Williams yn olrhain hynt un o chwedlau crefyddol poblogaidd yr oesoedd canol. Beth oedd hanes Adda ac Efa wedi iddynt gael eu gyrru allan o Baradwys? A beth yw cyswllt Pren y Bywyd yng ngardd Eden â phren y Groes? Mae’r chwedl, a oedd yn rhan o gynhysgaeth crefydd y cyfnod yng Nghymu, yn gymhleth ar adegau ac mae’n dda cael arweiniad Patricia Williams drwyddi. Hawdd yw dilorni’r cyfan fel ffrwyth dychymyg (sy’n hollol gywir wrth gwrs) ond ffrwyth dyfalu pobl a oedd yn ymhyfrydu yn stori’r ysgrythur ydyw, pobl a oedd yn creu chwedl i archwilio arwyddocâd cyfoes yr hyn a ddigywdodd yn Eden gynt.
Mae E.G.Millward,’ “Hen Gymru Wen” ‘, yn parhau ei astudiaeth gyfoethog o ymateb Cymru i ‘Imperialaeth Newydd’ Prydain yn nhraean olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. I lawer yr ymherodaeth oedd yn diffinio lle Prydain yn y byd a’r mwyafrif yng Nghymru yn ei gweld yn rhan annatod o’r famwlad honno. Yn wir, roedd rhai yn dal fod i Gymru fach grefyddol genhadaeth arbennig i gristioneiddio trigolion pellennig yr ymherodraeth a’i gwneud yn un Gristnogol Brotestannaidd. Olrhain hynt y gred hon wna E.G.Millward a thrafod hefyd
dystiolaeth y rhai a fentrodd ei gwrthwynebu. Mae’n tynnu ar ei wybodaeth ddofn o lenyddiaeth y cyfnod ac yn rhoi inni gyfraniad pwysig arall i ddeall meddwl Cymru oes Victoria.