2017 fel y gŵyr rhai, yw pumcanmlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd pan gyhoeddodd y mynach Awstinaidd Martin Luther ei 95 thesis yn nhref Wittenberg yn yr Almaen. Mewn ymdriniaeth gynhwysfawr a meistrolgar, mae Robert Pope, bellach o Goleg Westminster Caer-grawnt, yn ogystal ag adrodd stori gynhyrfus y Diwygiad, yn trin yr achosion amdano, ei effeithiau parhaol, ac fel mae haneswyr wedi dadansoddi’r ffenomen ar hyd y blynyddoedd. Dyma yn ddiau drafodaeth gyflawn, olau ac awdurdodol sy’n deilwng o’r achlysur, a’r cwbl wedi’i gymhwyso atom ni fel Cymry.
Yna, o droi o gyfandir Ewrop ar draws Môr yr Iwerydd, mae un o’n hysgolheigion ifainc, Rhiannon Heledd Williams o Brifysgol De Cymru, yn crynhoi cynnwys ei chyfrol ddiweddar ar y cylchgrawn Cymraeg-Americanaidd Y Cyfaill o’r Hen Wlad, gan ddatgelu bwrlwm diwylliant a chrefydd Cymry America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Trwy waith ysgolheigion fel Bill Jones, Jerry Hunter, Anne Knowles ac eraill, gwyddom fwy lawer nag o’r blaen am gyfoeth y diwylliant hwnnw, a dyma gyfraniad newydd at y maes. Brodor o Landdewibrefi oedd William Rowlands, golygydd Y Cyfaill, a ddioddefodd wg arweinwyr ei gyfundeb, sef y Methodistiad Calfinaidd, yn ei wlad ei hun, ac wedi ymfudo gwnaeth fwy na neb i wreiddio’r ffydd Fethodistaidd ymhlith ei gydymfudwyr. Rhan o’r genhadaeth honno oedd Y Cyfaill, ond yn anhraethol fwy hefyd, yn ffordd o gadw cysylltiad nid yn unig rhwng y tonau o ymfudwyr uniaith Gymraeg a’i gilydd, ond rhwng yr hen wlad a’r byd newydd. Darllenwch yr ysgrif er mwyn cael blas ar y gyfrol.
Ymhlith yr adolygiadau ceir trafodaeth eithriadol ddiddorol Brynley F. Roberts ar gofiant Alan Llwyd i Gwenallt. Fel myfyriwr i Gwenallt ac yna yn aelod o staff Adran y Gymraeg yn Aberystwyth, gall ddatgelu pethau nad oedd yn amlwg i awdur y cofiant, a dylai’r sawl a werthfawrogodd y cofiant ddarllen yr adolygiad tra phwysig hwn hefyd. Mae ymdriniaeth Christine Jones â gorchestwaith geiriadurol Geraint a Nudd Lewis Geiriadur Cymraeg Gomer yn pwysleisio arbenigrwydd y gwaith tra yn rhannu â ni beth o’i fwrlwm a’i athrylith, tra bo’r hanesydd Robert Smith yn trin casgliad Gethin Matthews, Creithiau, sy’n gyfrol ar ddylanwad y Rhyfel Byd Cyntaf ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru. Yna ceir dau adolygiad o natur syniadol: Euros Wyn Jones o Goleg yr Annibynwyr Cymraeg yn tafoli cyfrol ysgrifau ei gyd-Annibynnwr John Heywood Thomas, Dirfodaeth, Cristnogaeth a’r Bywyd Da, a Robin Okey, y Cymro o Brifysgol Warwick, yn mynegi ei farn ar gynnwys ac arwyddocâd Credoau’r Cymry gan yr athronydd ifanc Huw Williams.