Rhifyn Hydref 2014

Rhifyn Hydref 2014

Beth oedd ymateb pobl Cymru i’r Rhyfel Mawr? Sut y bu iddynt fynegi eu hymateb a beth oedd effaith y Rhyfel ar fywyd y capeli?Dyna rai o themâu tair erthygl ‒ ‘Duw ar drai ar orwel pell’, capeli Cymru a’r Rhyfel Mawr; ‘Ymladd brwydr fawr y gwir’, emynau ‘r Rhyfel Mawr; Rhyfelgan ‒ yn Traethodydd Hydref gan dri awdur sydd yn dod i rai casgliadau tebyg yn annibynnol ar ei gilydd.

Tanysgrifio Nawr

Yn gyffredinol, er gwaethaf traddodiad heddwch y degawdau cyn hynny, cefnogol iawn a brwd fu’r Cymry dros y rhyfel ‘cyfiawn’ hwn a oedd yn ‘amddiffyn gwledydd bychain’ Ewrop a gwêl Robert Pope yma ddylanwad Lloyd George a’i fedrusrwydd yn priodi gwleidyddiaeth a iaith crefydd, ac yn arbennig y dylanwad a gafodd cymanfa ganu Eisteddfod Genedlaethol 1916. Ychydig oedd y gweinidogion megis Puleston Jones, Thomas Rees a Herbert Morgan a wrthwynebodd y rhyfel ar seiliau athronyddol a diwinyddol. Deddf gorfodaeth filwrol 1916 a barodd i’r brwdfrydedd oeri wrth i fwy a mwy wynebu’r croesdynnu rhwng yr egwyddor wirfoddol a rhyddid cydwybod a hawl llywodraeth i orfodi dynion i ymladd. Araf iawn fu effeithiau’r rhyfel yn dod i’r amlwg yn niferoedd aelodaeth capeli. Canlyniad mwy arwyddocaol oedd bod capeli wedi troi at adfywiad cymdeithasol ond wedi tynnu ‘nôl o unrhyw weithgarwch gwleidyddol a magu polisi amwys tuag at y Wladwriaeth a’r pleidiau. Collasant eu dylanwad yn y bywyd cyhoeddus a cholli hefyd afael ar y rhai a fu gynt yn wrandawyr ffyddlon.

‘Brwydr fawr y gwir’ oedd y Rhyfel i o leiaf un emynydd y cyferir ato yn erthygl Gerwyn Williams. Mae yntau’n pwysleisio lle mawr yr emyn ym mlynyddoedd y Rhyfel, gartref ac fel gollyngdod cynhaliol ymhlith y milwyr. Dengys yntau le canolog David Lloyd George yn hybu’r gymanfa ganu yn ogystal â’i hoffter personol a didwyll ef o’r emyn fel cyfrwng mawl ac fel mynegiant o’r dyhead am fyd gwell a heddychlon. Thema arall yr erthygl yw emynau protest yn erbyn y cysyniad o’r rhyfel cyfiawn , er mai parodïau coeglyd yw llawer ohonynt ac mai prin y gellir eu hystyried yn emynau mewn gwrionedd. Yr hyn na chafwyd, neu na chofnodwyd, yn y Gymraeg yw caneuon amharchus sinicaidd milwyr ar emyndonau poblogaidd fel y cafwyd yn Saesneg. Ai parch Cymry at yr emyn, neu lais sydd wedi mynd ar goll?

Chwilio am y canu poblogaidd adeg y Rhyfel y mae Meic Birtwistle hefyd a hynny trwy ganolbwyngtio ar gynnyrch ‘y bardd gwlad’ Volander Jones. Ond man cychwyn yr erthygl yw cymanfa ganu 1916 a defnydd Lloyd George o ganu emynau i gynnal ysbryd y Cymry. Cerddi jingoistaidd yn cefnogi’r ymdrech filwrol yw llawer o ganeuon Volaner ac er bod rhai’n ymddangos yn sentimental erbyn hyn, cyfrwng codi calon oeddynt i filwyr ac yn llawn cellwair a chasineb at yr Ellmyn a’r Kaiser. Ac mae’n dadlennol mor boblogaidd fu cyfrol fach ei ganeuon a barnu wrth y pedwar argraffiad a gafwyd ohoni, Ond ble mae canu Cymraeg y ffosydd eu hunain, caneuon y profiad milwrol uniongyrchol, y canu a allai gyfateb i’r toreth o ganeuon Saesneg poblogaidd? Llais coll y milwr?

Dyma agweddau ar brofiad Cymreig y Rhyfel Mawr a esgeuluswyd, ac y mae’r rhifyn hwn o’r Traethodydd yn dyfnhau ein dirnadaeth o’r blynyddoedd hunllefus hyn. Mae cnwd o adolygiadau yn y rhifyn gan gynnwys rhai ar dri llyfr a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaehth Llyfr y Flwyddyn eleni. Difyr yw eu darllen wedi’r dyfarnu!