Agwedd arall ar berthynas llenyddiaeth yn y ddwy iaith sydd gan T.Robin Chapman sy’n seiadu wrth ddisgrifio ei brofiad yn ymroi i ysgrifennu hanes llenyddiaeth Gymraeg yn Saesneg. Cyfyd llawer o gysyniadau i’w herio; beth ysgogodd haneswr llên y gorffennol a pha ymagweddau ddatguddir yn eu gwaith, o ddyddiau Thomas Stephens hyd at feirniaid ein hoes ni? sut y bydd (neu y bu) ef ei hun yn darllen y gweithiau hyn? A lwyddodd i lunio’r gyfrol yr oedd wedi dychmygu gweud? A’i gasgliad terfynol?
‘Mae gagendor bob amser rhwng bwriad, cynnyrch a phroses wrth sgrifennu. Mae drychiolaeth testun potensial yn hofran uwchben pob testun go-iawn. Yn ddieithriad, wrth edrych yn ôl ar y geiriau ar bapur, mae pob awdur yn gorfod dweud, ‘Fel hyn y bu ‒ sort of.’
A dyna deitl gafaelgar ei erthygl.
‘Sut i arfer y Gymraeg’ yw teitl heriol erthygl-adolygiad Cynog Dafis sy’n agor gyda’r geiriau, ‘Ddylai neb sy o ddifrif ynghych polisi adfywio’r Gymraeg fod heb ddarllen y gyfrol hon’, sef Pa beth yr aethom allan i’w achub? gan Simon Brooks a Richard Glyn Roberts. Mae’r adolygydd yn trafod yn feirniadol deg syniadau awduron amrywiol y gyfrol cyn cynnig ei freuddwyd ei hun wrth ddyfynnu ‘pigion o araith Ceredig Warburton i orymdaith Caerdydd Mudiad Gyriant y Gymraeg ar Ŵyl Ddewi 2044’. Darllenwch yr araith a bernwch chi, cyn troi at hanes breuddwyd arall, un a wireddwyd. Breuddwyd pâr priod o genhadon, heb lawer o fodd ariannol, oedd sefydlu coleg beiblaidd yng Nghymru i hyfforddi cenhadon. Mae W. Howard Evans yn adrodd hanes sefydlu’r Bible College of Wales yn Abertawe gan Rees Howells a’i wraig ac yn olrhain hanes eu holl weithgarwch rhyfeddol o 1924 ymlaen at 1992 ac oddi ar hynny. Nid pawb a gytunai â safbwyntiau Rees Howells ar lawer o bynciau ond ni ellir llai nag edmygu ei ddygnwch a’i ffydd.
Rhifyn amrywiol ei gynnwys unwaith eto, ynghyd â thoreth o adolygiadau; cyfoeth o ddarllen diddorol ar ddiwrnodau hirddydd haf (waeth beth fyddo’r tywydd). Y cyfan am £4.00.