Mae gweddill arlwy rhifyn Mis Ebrill yn rhedeg ar hyd llinellau mwy syber. Yn ei ysgrif ‘Pamffledi Heddychwyr Cymru: Adeiladu’r Gymdeithas Amgen yn y 1940au’, mae Llion Wigley yn cwblhau ei astudiaeth o basiffistiaeth adeg yr Ail Ryfel Byd, astudiaeth y cyhoeddwyd ei rhan gyntaf yn rhifyn Ionawr. J. Gwyn Griffiths, ei wraig Kathe Bosse Griffiths ynghyd â’u cyfaill Pennar Davies yw’r thema’r tro hwn, sef y Cristnogion anarchaidd-radicalaidd a berthynent i ‘Gylch Cadwgan’ gan gyfrannu cryn asbri i’r mudiad cenedlaethol yn eu dydd. Mae’n syn darllen pa mor gyfoes yw eu cenadwri yn yr oes ryfelgar hon. O ran ysgrifennu creadigol, ceir stori fer ddifyr a meddylgar gan Dafydd Ifans o dan y teitl ‘Pum Munud mewn Oes’. Yna, mae Elfed ap Nefydd Roberts yn mynd â ni i un o feysydd ei arbenigedd, sef gweddi a’r bywyd defosiynol. ‘Cynnal ysbrydolrwydd’ yw teitl twyllodrus o syml ysgrif sy’n gyfoethog
eithriadol o ran ei chynnwys ac sy’n ffrwyth profiad helaeth a doethineb mawr.
Ac yn dilyn hynny ceir traethiad yr un mor gyfoethog gan y Dr Tom Davies, y meddyg o Gaerdydd, ar y seicolegydd Ernest Jones, cofiannydd Sigmund Freud, a’r gŵr a briododd un o forynion trasig y genedl, sef Morfydd Llwyn Owen. ‘Bu farw Morfydd Llwyn Owen ar 7 Medi 1918, yn ei hugeiniau diweddar’, meddai Dr Davies.
Nid oes gennyf y gallu na’r awydd i drafod ei gwaith fel cerddor. Er hynny, mae’r ffordd y bu hi farw o ddiddordeb i mi. A hynny am fod ei gŵr wedi ei gyhuddo o fod â rhan yn y digwyddiadau a arweiniodd at ei thranc. Fy ngobaith wrth ysgrifennu’r papur hwn yw ceisio unioni’r cam a wnaed ag ef heb i mi ddiystyru ei wendidau.
Fel gydag ysgrif Ifor ap Gwilym, darllenwch hon er mwyn cael gweld trosoch eich hunain!
Yn dilyn dathliadau Williams Pantycelyn y llynedd, ofn rhai oedd bod ffigyrau mawr eraill yn mynd i gael eu hanghofio. Mae’n dda, felly, darllen ymdriniaeth Gruffydd Aled Williams â champwaith James Pierce, awdur newydd yn y byd Cymreig, ar fywyd a gwaith William Salesbury, yr ysgolhaig o Ddyffryn Clwyd a chyfieithydd Testament Newydd 1567. Mae’r golygydd yntau yn crybwyll gwaith Salesbury yn ei ysgrif: ‘Martin Luther, William Salesbury a Griffith Jones, Llanddowror: Etifeddiaeth y Diwygiad Brotestannaidd, 1517 – 2017’, sef sylwedd darlith flynyddol Prifysgol Cymru a draddodwyd ar faes y brifwyl y llynedd. Ond nid yw Pantycelyn chwaith yn cael cam. Cymwynas gan yr Athro E. Wyn James oedd crynhoi ynghyd ysgrifau Saesneg y diweddar H. A. Hodges – cyfaill y Canon A. M. Allchin – ar emynyddiaeth Gymraeg, ac mae Rhidian Griffiths yn talu sylw i’r gyfrol Flame in the Mountains: Williams Pantycelyn, Ann Griffiths and the Welsh hymn, essays and translations by H. A. Hodges (Y Lolfa, 2017), tra bod Aled Edwards, yntau yn frodor o Drawsfynydd, yn adolygu cyfrol Robin Gwyndaf Cofio Hedd Wyn: Atgofion Cyfeillion a Detholiad o’i Gerddi (Y Lolfa, 2017). Mae R. Gwynedd Parry hefyd yn adolygu bywgraffiad swmpus a phwysig D. Ben Rees, sef Cofiant Cledwyn Hughes: Un o Wŷr Mawr Môn a Chymru (Y Lolfa, 2017).