Rhifyn Ebrill 2017

Rhifyn Ebrill 2017

Yn rhifyn Mis Ebrill o’r Traethodydd ceir arlwy amrywiol a fydd at ddant pawb o garedigion llenyddiaeth a’r diwylliant Cymraeg. Mae Gwyn Morgan yn nodi canmlwyddiant geni’r bardd, y nofelydd a’r pregethwr Rhydwen Williams, un a gysylltir nid yn unig â Chwm Rhondda ei enedigaeth ond â Chwm Cynon lle bu’n byw ac yn gwasanaethu o’r 1970au ymlaen. Ceir stori fer gan Dafydd Ifans, astudiaeth dreiddgar a chynhwysfawr gan Manon Ceridwen James ar ddelwedd ‘y Fam Gref’ yn yr hunaniaeth fenywaidd Gymreig a goblygiadau hynny ar gyfer cenhadaeth yr eglwysi heddiw, ac yna ysgrif gan Bleddyn Owen Huws, ‘Gofidiau Tad a Mam: Llythyrau o Faes y Gad’, sy’n seiliedig ar ohebiaeth milwr o Gymro, sef y Preifat Richard Morris Griffith, mab y bardd Carneddog o Nanmor yn Eryri, â’i rieni yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Tanysgrifio Nawr

Bydd llawer yn cofio’r llun eiconig o Garneddog a’i wraig yn hen bobl, ym mhumdegau y ganrif o’r blaen, yn bwrw golwg dros erwau eu magwraeth am y tro olaf, cyn symud at eu mab a oedd yn byw yn Hinckley ger Coventry. Geoff Charles oedd biau’r llun a ymddangosodd ar dudalen flaen Y Cymro a’r pennawd ‘Yn edrych dros y bryniau pell…’ oddi tano, a’r llun yn cyfleu hiraeth ynghyd â’r ffaith fod Cymru hithau fel pen yn darfod am fod cynifer o’i phlant wedi gadael i fyw yn Lloegr. Milwr ifanc oedd Richard yn yr ohebiaeth hon, ymhell cyn iddo orfod symud i Loegr er mwyn cael gwaith, ac mae’r ohebiaeth rhyngddo a’i dad, a llythyrau ei dad at gyfeillion, oll yn cyfleu gofid oesol rhieni am eu plant. Mae llun trawiadol ‘Evian a’i Blant’ sydd ar glawr y rhifyn – Evian yn bentref yn Ffrainc, a’i gofeb enwog yn darlunio milwr yn ffarwelio â’i blant wrth fynd i ryfel – yn arwydd oesol o ing y cyflwr dynol. Yng nghanol dioddefaint yr unfed ganrif ar hugain, a phlant a’u rhieni yn eu cannoedd o filoedd ar ffo oherwydd rhyfel, da yw i ni ddarllen yr ysgrif sensitif hon.

Ynghyd a’r uchod, ceir ysgrif gan Rhidian Jones ar Eingl-Gatholigiaeth a’i gwreiddiau ym Mudiad Rhydychen y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’i harweinwyr: John Henry Newman, John Keble a Edward Bouverie Pusey. Cafodd y mudiad effaith ar grefydd Cymru, yn enwedig erbyn dechrau’r ganrif o’r blaen, ac ysgrifennodd amryw o Gymry arno. Da yw cael y darlun cryno hwn gan awdur cyfoes. Ymhlith yr adolygiadau mae Ioan Williams yn trafod golygiad newydd Dafydd Glyn Jones o ddramâu Thomas Parry Lladd wrth yr Allor a Llywelyn Fawr; Manon Wyn Williams yn sôn am astudiaeth Emyr Glyn Williams Is-Deitla yn Unig; Richard Owen yn trafod hunangofiant Tedi Millward a’r golygydd yn tafoli hunangofiant D. Ben Rees, y ddau wrthrych yma ymhlith ein cymwynaswyr helaeth o’r 1960au ymlaen; a Guto Dafydd, un o’r mwyaf arbennig o’n llenorion ifainc, yn gwerthfawrogi nofel Jon Gower, Norte.