Rhifyn Ebrill 2015

Rhifyn Ebrill 2015

Ar glawr rhifyn Ebrill o ‘r Traethodydd gwelir darlun gan ‘Arlunydd Penygarn’ (Thomas Henry Thomas) o Gymraes a’r Tylwyth Teg o’i chwmpas yn un haid; is-bennawd y rhifyn yw ‘Tylwyth Teg Cymru a’r Americanwr’. Dyna bwnc erthygl Brynley Roberts sy’n esbonio mai Wirt Sikes yw’r Americanwr, awdur British Goblins, llyfr arloesol ar lên gwerin Cymru a gyhoeddwyd yn 1879-1880. Daeth Sikes i Gaerdydd yn 1876 yn gonswl Unol Daleithiau America heb wybod dim oll am Gymru, ei diwylliant na’i diwydiant, a bu yn y swydd hyd ei farw yn 1883. Ymserchodd yng Nghymru yn y cyfnod byr hwnnw, crwydrodd yn helaeth yn mro Morgannwg a Gwent gan godi sgwrs â phawb a gwrddai, ac ymroes i ddarllen yn eang yn hanes a thraddodiadau Cymru. Yng nghwta dair neu bedair blynedd cyntaf ei arhosiad yma dysgodd ddigon i fentro cyhoeddi un o’r trafodaethau cynhwysfawr dadansoddol cyntaf o lên gwerin Cymru. Nid yw’r llyfr wedi derbyn ymateb caredig gan efrydwyr llên gwerin ac y mae’r erthygl hon yn ceisio achub cam Sikes gan hawlio ei fod wedi tynnu ar dystiolaeth wrioneddol y werin i fwy graddau nag sydd wedi cael ei honni. Llwyddo neu beidio yn yr amcan hwnnw, mae’r erthygl o leiaf yn ailgyflwyno cymwynaswr o dramorwr nad yw’n haeddu bod yn anghofiedig.

Tanysgrifio Nawr

Gwedd fwy cyfarwydd ar hanes ein diwylliant sydd gan Gareth Williams, sef hanes cystadlaethau corau meibion eisteddfodau mawr oes Victoria, ond y mae teitl ei erthygl ddarllenadwy yn addo golwg newydd inni ar yr hanes hwnnw, ‘Cythraul y canu yn oes aur y corau mawr’. Mae’n anodd inni ddirnad y brwdfrydedd cystadleuol a fyddai’n tarfu ar y cystadlu ac yn esgor ar ymladd ymhlith cyfnogwyr ac yn bygwth diogelwch personol y beirniaid. Da y dywedir mai’r gymhariaeth decaf yw ymlyniad rhai cefnogwyr timau pêldroed heddiw a’r un math o ddadansoddi cymdeithasegol sy’n egluro’r ddau ddiwylliant. Mae Gareth Williams yn ysgrifennu’n fyw ac yn ddifyr ond mae’n gwneud gyfraniad gwerthfawr i’n dealltwriaeth newydd ni o natur oes Victoria yng Nghymru ‒ nad oedd y menig yn glaerwyn bob amser.

Trafod y dystiolaeth am natur ‘Brogarwch Cymry’r Oesoedd Canol’ y mae Euryn Rhys Roberts yn ei erthygl ef. Dengys mai cymhleth ac amrywiol oedd ymwybyddiaeth Cymry o’u hunaniaeth eu hunain, gyda’r genedlaethol a’r rhanbarthol yn ymblethu i’w gilydd, Ynys Prydain a Chymru yn ymblethu ag Arfon a Gwynedd. Os oedd llys Bendigeidfran,’brenin coronog ar yr ynys’ yng Ngwynedd, ai’r awgrym yw mai drwy sbectol leol neu ranbarthol y gellid amgyffred cyfaredd Ynys Prydain fel cysyniad? Y casgliad y deuir iddo yw: ‘Ni allwn wadu bod ymgiprys gwleidyddol a diffyg undod teyrnasol yn nodweddu Cymru [yr oesoedd canol], ond camsyniad fyddai gor-bwysleisio mai rhannol ac amwys oedd cymeriad ei hymwybyddiaeth genedlaethol.’ Mae’r erthygl yn gyfraniad o bwys i bwnc sydd wedi cael cryn sylw gan haneswyr Cymru dros y blynyddoedd diwethaf hyn.

Diwinyddol yw trywydd erthygl Goronwy Wyn Owen sydd yn astudiaeth o waith Parchg. David Adans (1845-1923) a Rhyddfrydiaeth Ddiwinyddol yng Nghymru. Bu ef yn ffigur eithriadol bwysig, meddir, yn agor cwysi meddyliol ac athronyddol chwyldroadol i’r rhai hynny a fynnai ei ddilyn. Trafodir yn fanwl syniadau’r ddiwinyddiaeth hon a fu’n ddylanwdol iawn yn ar droad y 20fed ganrif ond barn yr awdur yw fod syniadau David Adams ‘yn bendant yn wrthwyneb i athrawiaethau traddodiadol yr Eglwys Gristnogol’. Cyfiawnhau’r farn honno yw prif fwrdwn yr erthygl gyfoethog hon.

Yn olyrarfer, y mae yn y rhifyn nifer o adolygiadau cytbwys a theg, un arall o gymwynasau cyson Y Traethodydd trwy gydol ei hanes. Bydd rhifyn Gorffennaf yn gyfraniad i ddathliadau ‘Patagonia 150’ gydag erthyglau gan Gymry a Gwladfawyr.