Rhifyn Ebrill 2014

Rhifyn Ebrill 2014

Mwy difyr na chofio ffeithiau hanes yw holi ‘pam?’ a ‘beth petai?’ Efallai na chawn byth atebion i gwestiynau o’r fath ond parant inni gofio mai pobl sy’n gwneud hanes. Pam tybed y mynnodd y ffisgydd Almeinig Heisenberg ymweld â’i hen gyfaill Niels Bohr yn Copenhagen yn 1941? Byddai adnewyddu cyfeillgarwch yn rheswm digonol mae’n siŵr, ond bu’r ddau’n ymhel cyn hyn â’r posibilrwydd o greu arfau niwclear ac roedd Heisenberg bellach yn bennaeth rhaglen arfau atomig yr Almaen. Ai pysgota yr oedd am wybodaeth ynghylch hynt y rhaglen atomig yn America, neu awgrymu nad oedd y datblygiadauu yn yr Almaen yn fygythiad? Pwy ŵyr? Ond yr ymweliad hwn yw man cychwyn erthygl Gareth Roberts a Rowland Wynn, ‘Copenhagen a Chymru’, sy’n disgrifio sut yr oedd cyfraniad Bohr i fyd y ffiseg ‘newydd’ ac i’r astudiaeth o weithrediad yr atom mor chwyldroadol a dylanwadol. Denodd ato i Copenhagen, cyn blynyddoedd blin yr Ail Ryfel Byd, wyddonwyr o bob cwr o’r byd i weithio gydag ef neu dan ei oruchwyliaeth, hufen ffisegwyr y dydd. Yn eu plith yr oedd rhai Cymry ifainc tra thalentog ac mae’r erthygl ddiddorol hon yn olrhain cyfaniadau tri Chymro a fu gyda’r cawr Bohr, Edwin A.Owen,W.E.Williams, ac yn arbennig yr athrylithgar E.J.Williams a fu’n gyfaill agos â Bohr hyd ei farw cynnar yn 1945. Erthygl yw hon sy’n agor maes newydd gwyddonol i lawer ohonom ni leygwyr a hynny mewn Cymraeg eglur a darllenadwy.

Tanysgrifio Nawr

Y mae cryn dipyn o hanes gwyddoniaeth yn erthygl amserol Cathryn Charnell-White, ‘Ar drywydd y tywydd: Cymru ac Oes yr Ia Fechan’. Mae pawb ohonom yn gyfarwydd â’r term Oes yr Ia, ond pryd bu ‘oes yr ia fechan’? Newidiodd yr hinsawdd a’r tywydd a thyfu’n sylweddol oerach rhwng tua 1540 ac 1800 nes haeddu’r enw oes yr ia. Olrhain hanes astudio a chofnodi’r tywydd a wneir yn rhannau cyntaf yr erthygl hon, pwnc a oedd o ddiddordeb ymarferol i amaethwyr a theithwyr y pryd hynny megis nawr. Ac fel y byddwn ni’n tueddu i gymharu gaeafau a hafau â’i gilydd a hel atgofion am y trafferthion a fu, felly hefyd y bu beirdd y cyfnod hwnnw wrthi’n llunio penillion am ‘rew mawr 1607’, ‘blwyddyn wlybyrog 1621’ a’r tebyg. A chofio mis Mawrth 2013 (a syllu ar lun clawr y rhifyn hwn) mae rhywbeth cyfoes iawn mewn llinellau megis ‘Gwasgarog wisg o eira – a daenwyd/Hyd wyneb bro Cambria’ yn 1784. Y gwahaniaeth mawr yw fod beirdd y cyfnod hwnnw yn gweld llaw Duw yn hyn oll, yn arwyddion o’r amserau a galwad ar i bobl edifarhau. Bu’n gyfnod prysur i almanacwyr hefyd wrth iddynt gofnodi a darogan y tywydd (eto â thinc cyfoes). ‘Hi fydd weithiau yn fellt, taranau a glaw mewn rhai mannau, y pryd arall y bydd mewn mannau eraill yn deg a gwresog o fewn ychydig ffordd at hynny. … Ond na ddisgwyliwch y gallaf ddywedyd mo’r tywydd yn gywir ym mhob mannau.’ Mae’r erthygl yn diweddu ar nodyn gwir gyfoes wrth drafod goblygiadau cynhesu bydeang ein dyddau ni. Erthygl gynhwysfawr sy’n cyffwrdd â sawl maes.

Mae rhywbeth annisgwyl o ddynol yn erthygl olaf y rhifyn hwn, ‘Annwyl Gyfaill ,,, yr ohebiaeth rhwng John Morris-Jones ac O.M.Edwards’ gan Manon Jones. Dau o gewri ysgolheictod eu cyfnod a chymwynaswyr mawr Cymru yn datgelu yn eu llythyrau y gwir gyfeillgarwch personol a rannent a’r gofal oedd ganddynt ill dau dros bob agwedd ar les meddwl a diwylliant eu cenedl a’i hiaith. Gallent anghytuno’n chwyrn â’i gilydd ar adegau ond heb fyth beryglu eu serch at ei gilydd. Tybed a ydym yn byw bellach mewn oes sydd yn rhy swil i fynegi ein teimladau at ein gilydd?

Mae yn y rhifyn hwn gasgliad nodedig o englynion gan Goronwy Wyn Owen a dau adolygiad craff. Rhifyn arall gorlawn o ddeunydd diddorol, a hynny am £4.