Rhifyn Ionawr 2019

Rhifyn Ionawr 2019

Mae rhifyn diweddaraf Y Traethodydd, cylchgrawn chwarterol y diwylliant Cymraeg, yn cynnwys amrywiaeth o bynciau a ddylai fod at ddant pob darllenydd ystyriol. Mewn ysgrif ddiddorol a chynhwysfawr o dan y teitl ‘Ysbrydion llên’, mae Ieuan Parri yn disgrifio thema arswyd a’r dirgelwch mewn llenyddiaeth Gymraeg o ganol yr ugeinfed ganrif ymlaen, gan grybwyll gweithiau gan T. H. Parry-Williams, D. Tecwyn Lloyd ac Islwyn Ffowc Elis ynghyd ag awduron mwy diweddar fel Gwyn Thomas a Glyn Adda. Dyna ysgrif a ddylai godi arswyd ar bawb ohonom!

Tanysgrifio Nawr

Ynghyd â hyn, rhan o swyddogaeth Y Traethodydd yw talu teyrnged i gymwynaswyr sydd wedi’n gadael yn ddiweddar, ac i’r perwyl hwnnw mae Robin Gwyndaf ac Eryl Wynn Davies yn nodi cyfraniad mawr y diweddar Owen E. Evans, y naill yn sôn am ei argyhoeddiadau crefyddol a heddychol, argyhoeddiadau a ffurfiwyd pan yn ŵr ifanc yn Ardudwy ac yna yn Llundain pan ddaeth dan gyfaredd yr heddychwr mawr o weinidog Wesleaidd, Donald Soper, a’r llall yn trafod ei gyfraniad i ysgolheictod feiblaidd. Owen Evans oedd, am ddegawdau, yn gyfarwyddwr y Beibl Cymraeg Newydd, a cheir sôn yma am y gwaith hwnnw a’i bwysigrwydd i’n bywyd cenedlaethol.

Mae John Gwynfor Jones, un o’n prif awdurdodau ar hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar, yn trafod ymwneud John Whitgift, archesgob Caergaint rhwng 1583 a 1604, â Chymru gan grybwyll a’i gyfeillgarwch â William Morgan, esgob Llandaf a Llanelwy a chyfiethydd Beibl Cymraeg 1588, a’i elyniaeth ddigymrodedd â Chymro enwog arall, sef John Penri, a ddienyddiawyd yn 1593. Mae’r ysgrif yn esbonio’r hyn sy’n ymddangos yn baradocs i ni, sef sut y gallai arweinydd eglwysig trwyadl Brotestannaidd a Chalfinydd ei gred fod mor gefnogol i William Morgan a’i ymdrechion o blaid y Beibl Cymraeg, tra ar yr un pryd yn gwrthwynebu hyd angau John Penri a oedd yntau yn Brotestant angerddol ei sêl dros y ffydd yng Nghymru. Darllener yr ysgrif i ddeall a datrys y dirgelwch hwn. Ac yna, mewn ysgrif gofiannol, mae John Heywood Thomas, o diwinydd sydd bellach yn byw ym Mro Morgannwg, yn trafod ei ymwneud oes â rhai o feddylwyr yr Eglwys Gatholig, rhai fel y Jeswitiaid Seisnig Maurice Bévenot a Martin D’Arcy ac yna Bernard Longeran, yntau’n frodor o Ganada, ac ag un a oedd yn hysbys ymhell y tu hwnt i gylchoedd y diwinyddion, sef Basil Hume, y mynach carismatig a ddaeth, fel Archesgob Westminster, yn bennaeth ei Eglwys yng Nghymru a Lloegr.

Ynghyd â’r uchod, mae Menna Machreth yn cynnig sylwadau ar waith uno ddiwinyddion ffeministaidd yr Eglwys yng Nghymru, sef Manon Ceridwen James, a’i chyfrol arloesol Manon Ceridwen James, Women, Identity and Religion in Wales: Theology, Poetry, Story (Gwasg Prifysgol Cymru, 2018).