Y mae elfen o hanes yn yr erthyglau sy’n dilyn, ondtrafodaethau ydynt sy’n ddrych o’r diwyllianteang sy’n cysylltu Cymru â syniadau’r byd mawr y tuallan wrth inni symud o lenyddiaeth Roeg ihanes seiciatreg, o ysbrydegaeth oes Victoria i addysg ddiwinyddol. Ac yna, cyfres oadolygiadau gwerthfawr o gyhoeddiadau cyfoes sy’n ymdrin â mathemateg, llenyddiaeth a‘merched digon trafferthus’
Y mae Iestyn Daniel yn trafod yn deg a chytbwys uno gyfieithiadau ei ddiweddar dad,J.E.Daniel, o un o gerddi serch Sapho, a thrwy hynny fe rydd gipolwg inni o’r addysg glasurol agollwyd o’n hysgolion a’n prifysgolion, addysg a allai ddwyn ysgolheictod a chwaeth lenyddol atei gilydd fel y dengys y cyfieithiad hwn. Y mae J.Heywood Thomas yn rhoi inni ragor o’i atgfionam rai o’r cewri diwinyddol ac athronyddol a fu’n rhan o’i addysg wrth iddo eistedd wrth eutraed. H.H.Farmer yng Nghaergrawnt sy’n deffro ei atgofion y tro hwn ac fel yn ei ysgrifau eraill,yr hyn sy’n nodedig yw natur yr addysg yr ymatebaiJohn Heywood Thomas iddi, addysg addaliai i roi pwys ar ddialog rhwng athro ac efrydydd. Tybed a yw’r peiriant addysg uwch yncaniatáu i’r ddisgyblaeth hon ddigwydd heddiw?
Hanes seiciatreg yng Nghymru (a Lloegr) yw pwnc T.G.Davies, ‘“Eisteddfod y Teimladau”:sylwadau ar ddatblygiad seiciatreg’. Mewn erthygl fanwl sy’n tynnu ar ffynonellau hanes o lawermath – swyddogol, proffesiynol a llenyddol – y mae’n disgrifio taith lafurus cymdeithas iadnabod natur afiechydon meddwl ac i ddatblygu ffyrdd cydymdeimladol ac effeithiol o’u trin.Nid ydym wedi cyrraedd pen y daith eto ac y mae rhai ymagweddau modern tuag atanawsterau henaint ac afiechyd meddwl yn dal i fodyn achos pryder ond dengys yr erthgl y fathgynnydd a fu, Rhag bod camddeall, gwell egluro maicyfeirio at hen ddamcaniaeth y mae’r gair‘eisteddfod’ yn y teitl, sef mai’r ‘ymennydd yw eisteddfod y teimladau a gweithrediadau’r deall’,lle bynnag y lleolid yr ‘eisteddfod’ honno. Y mae E.G.Millward yn datguddio agwedd arall,annisgwyl efallai, ar gredoau poblogaidd Cymry’r 19fed ganrif. Ar dudalennau ‘cylchgrawnunigryw Evan Pan Jones’, Cwrs y Byd, cafwyd dadl fywiog rhwng ‘Ioan Dderwen o Fôn’ a ‘IoanBydir’ ar bwnc ysbrydegaeth; ‘ffiloreg’ ydoedd i’rnaill ohonynt ond cyfrwng sydd ‘yn ein dysgu iaddoli y gwir ar bywiol Dduw, perffaith a chyflawn’ôl y llall. Tebyg y ceid dadl ddigon tebygheddiw petai rhywun yn codi’r mater.
Mae adolygiadau’r rhifyn yn sylweddol ac yn onest,yn ôl arfer Y Traethodydd, gydag ambell unefallai yn corddi ychydig ar y dyfroedd llenyddol Cymraeg.
Amrywiaeth perthnasol sydd wedi nodweddu’r Traethodydd erioed. Mae’r rhifyn hwn yn ytraddodiad hwnnw, a bydd rhifynnau eraill 2014 yn parhau’r traddodiad hwnnw.