Rhifyn Ionawr 2013

Alice

Y mae clawr trawiadol rhifyn Ionawr yn cyfleu pwncsydd o’r pwys mwyaf i’n dyfodol. Mae’r geiriau odan y llun o fyd gwyrddlas yn ymdoddi’n afal pwdr –Etifeddiaeth ein plant, Gardd Eden neu AfalDrwg? – yn gofyn y cwestiwn y mae’n rhaid inni eiwynebu, sef, a oes terfyn ar adnoddau naturiolein planed, a oes terfynau i gynnydd

Tanysgrifio Nawr

Dyna bwnc Gareth Wyn Jones sy’n gosod y cwestiwn mewn geiriau eraill yn ei erthygl ‘Croesi’rFfiniau neu Geisio Paradeim Newydd?’. Mae hon yn erthygl hwy nag arfer a bydd yn parhau ynrhifyn Ebrill, ond mae’n haeddu ei darllen yn ofalus, oherwydd mae Gareth Wyn Jones yn dangos eibarch at ei ddarllenwyr trwy drafod y pwnc gyda’r difrifoldeb a’r manylder sy’n briodol iddo (ac etomewn modd hollol ddarllenadwy gan leygwyr)

A oes terfyn ar adnoddau’r blaned, neu a all grymoedd y farchnad neu wyddoniaeth a thechnolegddatrys y problemau amgylcheddol sy’n codi o osod twf economaidd yn bennaf brawf llwyddiant?Mae casgliadau’r awdur yn rhai sobreiddiol:

Mae’n amlwg bod y gyfundrefn bresennol yn ein byd yn ansefydlog yn economaidd, yngymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn wleidyddol ac yn fwy na thebyg mae’n anghynaliadwy. Wrthgeisio cynnal a pharhau cyfundrefn o’r fath am y 50-100 mlynedd nesaf mae bron yn sicr y byddwnyn mynd ymhell bell y tu hwnt i derfynau’r blaned hon. Efallai’n wir ein bod ni wedi croesi’r ffineisoes…

Sut y gallwn ni harneisio ‘optimistiaeth yr ewyllys’ er gwaethaf ‘pesimistiaeth y deall’? Beth fydd yllwbyr at ddyfodol cynaliadwy? Dyna bwnc gweddill yr erthygl yn y rhifyn nesaf

Gweinidog a greodd gryn gyffro yn y gymdeithas Gymraeg yn y 1960au oedd Gwilym O Roberts agymhwysodd syniadau seicoleg Freud at rai o ddaliadau’r grefydd gyfundrefnol draddodiadol yngNghymru. Cyfaill iddo oedd yr athronydd J R Jones a’r ddau hyn yw pwnc erthygl Llion Wigley, ‘Dauo ddeallusion y 60au mewn cyd-destun rhyngwladol’.Bydd y rheini sy’n cofio’r cyffro syniadau yncroesawu’r drafodaeth hon, a’r rhai iau, efallai, yn sylweddoli fel yr oedd Cymru’n rhan o gynnwrfdiwylliannol a deallusol y cyfnod hwnnw.

Cyffro oes wahanol sydd gan D.Densil Morgan yn ‘ “YPrins”: agweddau ar fywyd a gwaith ThomasCharles Edwards’. Ar un olwg, dyma un sy’n cynrychioli ethos yr oes Fethodistaidd a’r addysgglasurol a diwinyddol a gysylltir â hi; ond gwelaifod newid chwyldroadol ar waith wrth i foderniaethymblwyfo a difrawder crefyddol ymledu. Ymwneud y mae’r erthygl olau hon, gan y pennaf o’nhaneswyr diwinyddol Cymreig, ag ymateb Edwards i’wbryder cynyddol

Y mae yn y rhifyn hwn yr adolygiadau trylwyr ar ystod eang o lyfrau Cymraeg yr ydym wedi dod i’wdisgywl yn Y Traethodydd erbyn hyn

Y mae 2013 yn dechrau gyda’r wledd o ddarllen sy’nnodweddiadol o’r cylchgrawn hwn. Osnad ydych wedi adnewyddu eich tanysgrifiad, dyma’radeg i wneud hynny.BLWYDDYN NEWYDD DDA I CHI!