
O emynau Cymraeg Llangeitho a Chalfiniaeth Lerpwl iolwg newydd ar hen glasur Cymraeg aphilosophe o’r Swistir yn ceisio ymsefydlu yng Nghymru; dyna gynnwys cyfoethog o amrywiol yrhifyn hwn o’r Traethodydd
Tanysgrifio NawrO emynau Cymraeg Llangeitho a Chalfiniaeth Lerpwl iolwg newydd ar hen glasur Cymraeg aphilosophe o’r Swistir yn ceisio ymsefydlu yng Nghymru; dyna gynnwys cyfoethog o amrywiol yrhifyn hwn o’r Traethodydd
Tanysgrifio NawrErbyn hyn, ymddengys mai Deffroad yw dewis air haneswyr am yr hyn a gychwynnodd yn1735 a sonnir am ‘Y Deffroad Mawr’ yn hytrach nag am ‘Y Diwygiad Methodistaidd’. Bid a fo amhynny, nid oes amheuaeth nad trwy gyfnodau o gynnwrf crefyddol, ’diwygiadau’, y datblygoddbywyd yr eglwysi ymneilltuol yng Nghymru hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif. DiwygiadLlangeitho yn 1762 sy’n dangos y patrwm a ddaeth yngyfarwydd wedyn – y pregethu, ybrwdfrydedd a lle canolog canu emynau yn y gorfoleddu – ac olrhain dechreuadau’r diwygiadhwnnw a’r cyswllt â chanu emynau yw pwnc erthygl Eryn M. White, ‘ “Yr Ysbryd Canu”:Diwygiad Llangeitho, Williams Pantycelyn a’r Emyn’.Daw hi i’r casgliad nad emynauPantycelyn oedd yr hyn a gyneuodd y fflam ond eubod yn gweithio ar bobl a oedd eisoeswedi’u cyffroi gan y pregethu; a dyna ddechrau’r cyswllt cryf rhwng diwygiad a chanumawl.Mae’r hyn a ddatblygodd maes o law yn stori gyfarwydd gyda’r ymgais i godi adfywiadtrwy gyfrwng y canu, ond mae pargaraff olaf yr erthygl hon yn osod y cyfan yn ei gyd-destun; ‘Ygwir yw fod modd canfod gwreiddiau’r diwygiad yn ymdrechion cyson arweinwyr a phregethwyry mudiad i gynnal gweithgarwch drwy gydol cyfnod anodd yr Ymraniad. Cyfunwyd hynny gyda’rdarganfyddiad o rym arbennig yr emyn diwygiadol’
Cydnabyddir D. Ben Rees yn hanesydd gweithgar Methodistiaeth ei fro fabwysiedig, ei Lerpwlhoff. ‘Calfiniaeth a Chymry Lerpwl (1780-2011)’ yw testun ei erthygl y tro hwn. Pobl yw eiddiddordeb mawr a chyda’i fanylder arferol mae’n llwyddo i olrhain hanes nifer mawr oweinidogion a blaenoriaid eglwysi Cymraeg y ddinas,yn fugeiliaid, pregethwyr ac yn emynwyr;a chan fod cynifer ohonynt wedi datblygu’n arweinwyr cymdeithas ac yn wŷr busnes blaengarmae llawer o hanes y ddinas yma hefyd. Yn ymwau trwy’r hanes y mae dehongliad y gwŷr hyno’u Calfiniaeth, yn gymdeithasol ac yn fasnachol. Tybed a yw’r Sosialydd Calfinaidd Ben Reesyn cael ei herio gan gyfalafiaeth Galfinaidd y dynion hyn? Gellir synhwyro ei bod yn dda ganddoallu troi i adrodd hanes J.H.Howard ‘a lwyddodd iymddihatru o afael y Blaid Ryddfrydol, plaidpobl y capeli a’u harweinwyr yn Lerpwl’. Darllen difyr a dadlennol
Yn ail ran ei hastudiaeth o syniadaeth Rene Girard,‘Dial a Chymod, golwg ar y Mbaibogion trwylygaid Rene Girard’, mae Enid R. Morgan yn cymhwyso’r hyn a gafwyd yn ei herthygl gyntaf atBedair Cainc y Mabinogi. Fel pob clasur llenyddol mae rhywbeth oesol yn y storïau hyn sy’ncynhyrfu darllenwyr i ddyfnderoedd eu bod gyda golwg newydd ar y galon ddynol. Mae darllen ycyfansoddiad hynod hwn trwy’r sbectol Giradaidd ynei gwneud hi’n bosib i ddirnad bod ymaddenyddiau paganaid yn cael eu trafod yn Gristnogol, a chymuned Gristnogol yn dygymod âphroblemau gorthrwm a goruchafiaeth. Mae’r ymdriniaeth hon yn ein cyfoethog ddwywaith, wrthinni ddarllen y Pedair Cainc a hefyd wrth inni fyfyrio ar eirau maddeugar Crist ar y groes.Byd gwahanol braidd yw byd Heather Williams yn ‘Cymru trwy lygaid Rousseau (aceraill)’.Trafod y mae y newid agwedd a fu tuag at Gymru yn y cyfnod Rhamantaidd ac fel ytroes yn fwy caredig. Ond yn lle dyfynnu ymateb teithwyr o Loegr mae’n ystyried sylwadau tri o‘rcyfandir, y pwysicaf ohonynt, J.J.Rousseau, ‘tad Rhamantiaeth’, yn ei awydd i dreulio amseryng Nghymru yn ‘llyseua’ ac yn ymgolli ym myd natur. Ceisiodd llawer o’i gyfeillion ei ddarbwylloi beidio mentro i anwarineb anghyfiaith y wlad honno, ac yn y diwedd problemau ynghylch lle ifyw a rwystrodd ei fwriad i ymsefydlu yng Nghymru.Y mae ei ohebiaeth, er hynny, yndystiolaeth i’r newid agwedd yr oedd Rousseau ei hun i raddau helaeth yn gyfrifol amdano. Difyriawn hefyd yw darllen am arhosiad y nofelydd Genlisâ boneddigesau Llangollen, exemplar oymateb rhamataidd i Gymru
Y mae dau adolygiad ar ddwy astudiaeth ddiweddar oJohn Morris-Jones yn cloi’r rhifyn hwn oY Traethodydd, rhifyn arall cyforiog o syniadau a gwybodaeth newydd. Bydd y traddodiad ynparhau yn 2014