Rhifyn Gorffennaf 2013

Erthygl hwyaf rhifyn Gorffennaf o’r Traethodydd ywtrafodaeth ddadlennol a chraff M. WynnThomas ar y berthynas ‘allweddol’ rhwng Evan Roberts a Mrs Jessie Penn-Lewis wrth i’rdiwygiwr ddioddef, meddir, chwalfa feddyliol ac emosiynol yn sgil blynyddoedd dirdynnol ydiwygiad. Ymneilltuodd i gartref Mrs Penn-Lewis a’igwr yng Nghaerlyr lle y derbyniodd’amgylchfyd cynhaliol’ ac arweiniad emosiynol ac ysbrydol. Ffrwyth y blynyddoedd hyn oedd ygyfrol ryfedd, War on the Saints, ‘fy nghofiant dienw’ meddai Evan Roberts ei hun, llyfr addadansoddir yn ofalus gyda chryn gyd-ddealltwraethgan Wynn Thomas ac un y tâl inni eiailystyried. Dyma wedd newydd ar gymeriad ‘yr enigma rhyfedd hwn’, y gwr cymhleth, sensitif adeallus hwn, a’i hynt wedi’r diwygiad; a dyma hefydffrwd o oleuni ar Jessie Penn-Lewis, ‘mamysbrydol’ Evan Roberts.

Tanysgrifio Nawr

Newydd hefyd yw ymdriniaeth Enid R.Morgan ag athroniaeth Rene Girard a’i ddadansoddiad oachosion gwaelodol trais a dial, a chymod yn aberthyr ysglyfaeth diniwed. Dadleua EnidMorgan y gall damcaniaethau anthropolegol Girard gyfrannu at ein dealltwriaeth o’r Croeshoelio’gan godi pont rhwng uniongrededd Cristnogol, anghysur y rhyddfrydwyr a’r radicaliaid, acannealltwriaeth y di-gred’. Yn ei herthygl nesaf,yn rhifyn Hydref, bydd yn defnyddio’rdamcaniaethau hyn i roi golau newydd ar Pedair Cainc y Mabinogi.

Awduron eraill y rhifyn yw Huw Thomas sy’n gofyn ‘Groeg, Lladin a’r Gymraeg;ieithoedd byw?ieithoedd marw?’, ac yn ateb ei gwestiwn ei hun, E.Wyn James sy’n trafod rhagymadroddThomas Charles i’w gasgliad o emynau Ann Griffithsac yn dod i’r casgliad mai dyma ‘ygwerthfarwogiad cynharaf un o’i gwaith’. Cerdd newydd ysgytiol, ‘Croesi Ffiniau’, gan GwynThomas sy’n agor y rhifyn hwn, ac nid cyd-ddigwyddiad, tybiwn i, yw mai’r un teitl sydd i’r gerddag erthyglau Gareth Wyn Jones yn rhifynnau Ionawr ac Ebrill

Yn ôl yr arfer, mae yma nifer o adolygiadau gwerthfawr ar lyfrau diweddar amrywiol.Rhifyn cyfoethog arall sy’n ddrych o fywiogrwydd meddwl Cymu heddiw.