Rhifyn Ebrill 2013

The biggest myth of all is to assume that the Madog myth is a particularly Welsh myth.’Geiriau nodweddiadol herfeiddiol yr hanesydd Gwyn A. Williams. Yn eu herthygl gynhwysfawr,’Archaeoloeg a llenyddiaeth tiroedd dirgel y gorllewin’, mae Kristján a Lowri Ahranson yndangos mor bwysig a phellgyrhaeddol oedd y rhamanta’r ‘hanes’ am ‘diroedd dirgel y gorllewin’yn syniadau pobloedd ac ysgolheigion y 19fed ganriftrwy Ewrop ac fel y tyfodd yn gyfrwng iledaenu pob math o ddamcaniaethau am berthynas pobloedd â’i gilydd ac am swyddogaeth hila chenedl, y cyfan yn ddrych o fywiogrwydd meddwl yganrif honno

Tanysgrifio Nawr

‘Arwr’ yr erthygl yw Thomas Stephens a ddrylliodd ddelw hanesyddol Madog yn 1858. Dyma,meddir, un o feddylwyr praffaf Cymru yn y 19fed ganrif, gwr nodedig yn ei gyfnod am ei ddawn igwestiynu’r dulliau traddodiadol o ymchwilio ac uno arloeswyr y method gwyddonol. Mae’n ddagweld Stephens yn adennill ei le yn oriel mawrion Cymru

Troi at hanes y Crynwyr yng Nghymru a wna Gethin Evans a hynny o safbwynt euhymwybyddiaeth Gymreig, yn ei erthygl ‘Atgof Diniwed; Crynwriaeth, Cymru a Chymreictod’.Thema’r drafodaeth yw sylw R.T.Jenkins am WesleaethGymraeg, ei bod ‘hyd heddiw’n dwyncreithiau lletchwithdod’ oherwydd ‘dibynnu ar awdurdod y tu allan i Gymru ‘, a hola ai gwirhynny am wendid y Crynwyr yng Nghymru trwy’r canrifoedd. Ond diwedda ar nodyn rhybuddiol:’Ai atgof diniwed oedd y Crynwyr ynteu rhywbeth arall, ac os hynny, onid bellach yw hynnyhefyd yn wir am bron pob enwad arall yng Ngymru?’

Amheuthun yw cael trafodaeth hanesyddol sydd mor berthnasol i’r sefyllfa Gymreig heddiwmewn mwy nag un cylch

Nid oes dim yn fwy perthnasol i sefyllfa heddiw na’r rhan olaf hon o ymdriniaeth Gareth WynJones ar gynaladwyiaeth. Annog y mae ddatblygu system lawer llai dinistriol na’r un bresennol.Anodd meddwl am bwnc mwy perthnasol i’n dyfodol felpobl a does ond gobeithio y bydd yrerthygl bwysig hon yn esgor ar drafodaeth eang yngNghymru. Wedi’r cyfan, dyna fuswyddogaeth Y Traethodydd erioed